Ie, mae fy mywyd i mor wag o unrhyw fath o gyffro go iawn bod casglu geiriau diddorol yn un o'm hoff bethau i'w wneud. Gan fod genna'i gasgliad enfawr o eiriau, heddiw dwi 'di penderfynnu eu rhannu nhw gyda chi. Mwynhewch! 

1. 積ん読 tsundoku (Siapanaeg)

(enw) Y weithred o adael llyfr ar ôl ei brynu a byth yn ei ddarllen, fel arfer mewn pentwr gyda llyfrau eraill sydd heb eu darllen.  

Dw i'n credu bod llawer ohonom ni'n gwneud hyn. Mae gen i nifer fawr o lyfre dwi 'di brynu a fydda'i, mwy na thebyg, byth yn eu darllen. Fy llyfr ar ramadeg Llydaweg Canol, er enghraifft. Dwi just  yn hoffi casglu llyfre, i'w cael nhw ar y silff, dim ond i mi allu ddweud, "Sbia, mae gen i lyfr fyma ar ramadeg Llydaweg Canol" neu, "A dyma fy ngeiriadur Gwyddeleg o'r 1920au wedi'i sgwennu mewn An Cló Gaelach"Fydd rhai yn gweld hyn fel gwastraff ond gyda'r ffordd mae technoleg yn mynd, un diwrnod fydd llyfre ond yn addurniade beth bynnag. 

2. Wīwī (Maori)

(enw) Ffrainc

Dwi'm yn credu bod angen esboniad ar y gair 'ma. Mae'n dod o'r Ffraneg "oui, oui". Fedrech chi ddychmygu enwi gwlad ar ôl un ymadrodd ystrydebol? Perffaith.
 

3. snowlight (Saesneg)

(enw) Y golau sy'n cael ei adlewyrchu gan eira.

I fod yn onest, roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi dyfieisio'r gair hwn fy hunan, felly ro'n i 'chydig yn siomedig pan ddarganfyddais ei fod o'n bodoli'n barod. Ta waeth, mae o dal i fod yn air hyfryd! Dach chi erioed 'di sylwi sut mae'r byd yn disgleirio a thywynnu pan dach chi tu allan yn yr eira yn ystod y nos? Dach chi'n gallu cerdded trwy'r caeau yng nghanol y nos a buasech chi'n medru gweld yn glir, dim ond oherwydd y golau sy'n adlewyrchu o'r eira. Dyma un o fy hoff bethau am y gaeaf. 

4. molotulun (Ngarrindjeri)

(berf) Llanw a thrai y tonnau ar lyn Alexandrina, De Awstralia. 

Wyddwn i ddim os yw'r gair hwn yn gwbl ddilys; fydd archwiliad ar Google 'mond yn dangos dolenni i eiriaduron ac un neu ddau o lyfrau. Ond os yw'r gair yn ddilys neu peidio, mae'n hyfryd, ac mae'r syniad bod gan iaith gair mor benodol am natur â hwn yn fy ngwneud i'n hapus iawn. 

5. 森林 sēnlín (Tsieinëeg Mandarin) 

(enw) Coedwig 

"Coedwig?" dach chi'n gofyn, "mae 'coedwig' yn air diddorol?" Wel, paid â gofyn cwetiynnau mor dwl a just edrycha arno fo. Mae o, yn lythrennol, llun o bump coeden. Hefyd, o beth dwi 'di weld, mae o mond yn gwella: Gad i mi ddangos i chi sawl gwaith fedrech chi ddefnyddio'r lythyren syml 木 'ma:
木 林 森 𣛧 𣡕 𣡽
Sut fedrech chi peidio lyfio'r iaith 'ma!?

7. ននៀល [nɔniel] (Khmer)

(berf) Gorwedd ar y llawr ac yn corddi â'ch breichiau a'ch coesau (fel pysgodyn allan o'r dŵr neu plentyn yn strancio) 

Yn ei hanfod, mae'r gair 'ma yn cymharu crwtyn maldodus â physgodyn sy'n marw. Beth arall 'sa chi isio gan air? Dwi'm yn credu bod 'na lawer o gyfleuoedd i ddefnyddio'r gair 'ma, ond galla'i ddychmygu ei fod o'n hilêriys. 

8. crebi (Cymraeg)

(berf) Dafad a gollodd ei gwlân wrth ymwthio drwy ddrain, drysi, ayyb. 

Efallai eich bod chi'n gyfarwydd â hi, ond newydd ddarganfod y gair 'ma yn ddiweddar ydw i. A mi ges i gwd laff. 'Mond y Gymraeg buasai'n gallu cael gair mor benodol am ddefaid. 

9. serein (Saesneg) 

(enw) Glaw mân yn disgyn ar ôl machlud yr haul, o awyr lle nad oes gymylau'n weladwy. 

Fedrai'm ddweud fy mod i erioed wedi profi hwn fy hunan, ac fel rhywun sydd heb ddim clem am feteoroleg, dwi'n cweit yn deall sut fedrech chi gael glaw heb gymylau (unrhyw un isio esbonio?), ond dwi just wrth fy modd efo geiriau fel hyn am natur. 

10. petrichor (Saesneg)

(enw) Yr arogl arbennig sydd yn dod gyda'r glaw cyntaf ar ôl sbel hir o wres a sychder. 

Mae lot o bobl yn defnyddio'r gair hwn ar gyfer yr arogl sy'n dilyn glaw, ond mae 'na ystyr mwy penodol. Cafodd ei bathu gan ddau ymchwiliwr o Awstralia, ac mae hi'n air prydferth. Cyfuniad o ddau air Groeg yw hi: 'petra' (πέτρα) sy'n golygu 'carreg', ac 'ichor' (ἰχώρ), gwaed euraidd, etheraidd sydd gan hen dduwiau mytholeg.  
 
 
Dwi'm yn hoffi postio cyflwyniade i flogie. Fel arfer dwi just yn creu yn cofnod ac yna'n rhoi'r gore i'r blog yn gyfan. Tro 'ma dwi'm yn meddwl wna'i foddran efo cyflwyno'n hun a mi ai yn syth at y pethe diddorol. Wel, y pethe dwi'n meddwl sy'n ddiddorol. 

Dwi'n ymddiddori'n fawr mewn hen orgraffie, a mae gen i ddiddordeb anobeithiol yn eu datblygiad. Felly, ddoe, tra o'n i'n edrych arlein am gopie o eiriaduron ffantastig o ryfedd William Owen Pughe o'r 19eg ganrif, mi ffindies i drysor o orgraff a dwi wedi cwmpo'n bendramwnwgl mewn cariad gyda hi. 
Mae'n ymddangos ei bod hi'n seiliedig ar Goelbren y Beirdd, yr wyddor farddol a grewyd gan Iolo Morgannwg.  Mae'n anffodus bod y llyfr mor hen bod y marcie deiacritig yn aneglur. Dyma gopi o'r wyddor sydd yn y llyfr (mae'r wyddor sy'n seiliedig ar y Coelbren ar y chwith a'r wyddor modern ar y dde): 
Mae'r lythyren ar gyfer <w> yn eitha anodd i'w ddarllen. Mae'n edrych yn eitha tebyg i <ϭ> Syrilig neu <σ> Groegaidd. Dwi'n gwbod mewn  llawysgrife canoloesol y Gymraeg roedden nhw'n defnyddio llythyren yn debyg i'r rhif <6> ar gyfer <w>, felly mae'n debyg ei bod hi'n seiliedig ar honno. (Dwi'm yn meddwl ei bod hi ar gael mewn Unicode eto). Gan na fydd yr un o'r llythrennau uchod yn derbyn to bach ar ei phen, fydd yn rhaid i mi fod yn ddiflas a defnyddio'r <ϭ> ar gyfer <w> ac <ŵ>.
a ... [a]
â ... [a:]
b ... [b]
b̓ ... [v]
b̔ ... [m]
c ... [k]
c̓ ... [g]
c̔ ... [ŋʰ]
ć ... [x]
d ... [d]
d̓ ... [ð]
d̔ ... [n]
e ... [ɛ]
ê ... [e:]
v ... [v]
f ... [f]
g ... [g]
g̔ ... [ŋ]
h ... [h]
i ... [ɪ, i]
l ... [l]
l̔ ... [ɬ]



m ... [m]
m̓ ... [v]
n ... [n]
o ... [ɔ]
ô ... [o:]
p ... [p]
p̓ ... [b]
p̔ ... [mʰ]
ṕ ... [f]
r ... [r]
r̔ ... [rʰ]
s ... [s]
t ... [t]
t̓ ... [d]
t̔ ... [nʰ]
t́ ... [θ] 
u ... [ɪ, i, ɨ]
ϭ ... [w, u, u:]
y ... [ɪ, i, ɨ]
ᶌ ... [ə] 

I fod yn deg, mae'n llanast o orgraff, ond mae'r ffaith eich bod chi'n gallu gweld sut mae treiglio'n gweithio yn ddefnyddiol. Ond ar wahân i hynny mae'n flêr ofnadwy. Dwi 'di neud cymhariaeth bach an hwyl: 
 
Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad,
Dros ryddid collasant eu gwaed.


Mae hen ϭlad vᶌ t̔adau ᶌn annϭyl i mi, 
Gϭlad beird̓ a ćantorion, enϭogion o b̓ri; 
Ei gϭrol rᶌvelϭyr, gϭladc̓arϭyr tra mad,
Dros rᶌd̓id col̔asant eu gϭaed. 


Er gwaethaf ei llanast, mae'n edrych yn eitha cŵl, dwi'n credu. Yn bersonol, dwi'n hoff iawn o ieithoedd gyda llawer o farciau deiacritig (Fietnameg, unrhyw un?) Gan fy mod i'n gîc orgraffie, fydda'i mwy na thebyg yn dechre treulio lot gormod o amser yn dysgu darllen a sgwennu hon yn rhugl. Efallai fydd hi'n ffurf llaw-fer defnyddiol i'r Gymraeg heddiw? Neu efallai ddylai hi just aros yn y llyfr 'na am byth.