Dwi'm yn hoffi postio cyflwyniade i flogie. Fel arfer dwi just yn creu yn cofnod ac yna'n rhoi'r gore i'r blog yn gyfan. Tro 'ma dwi'm yn meddwl wna'i foddran efo cyflwyno'n hun a mi ai yn syth at y pethe diddorol. Wel, y pethe dwi'n meddwl sy'n ddiddorol. 

Dwi'n ymddiddori'n fawr mewn hen orgraffie, a mae gen i ddiddordeb anobeithiol yn eu datblygiad. Felly, ddoe, tra o'n i'n edrych arlein am gopie o eiriaduron ffantastig o ryfedd William Owen Pughe o'r 19eg ganrif, mi ffindies i drysor o orgraff a dwi wedi cwmpo'n bendramwnwgl mewn cariad gyda hi. 
Mae'n ymddangos ei bod hi'n seiliedig ar Goelbren y Beirdd, yr wyddor farddol a grewyd gan Iolo Morgannwg.  Mae'n anffodus bod y llyfr mor hen bod y marcie deiacritig yn aneglur. Dyma gopi o'r wyddor sydd yn y llyfr (mae'r wyddor sy'n seiliedig ar y Coelbren ar y chwith a'r wyddor modern ar y dde): 
Mae'r lythyren ar gyfer <w> yn eitha anodd i'w ddarllen. Mae'n edrych yn eitha tebyg i <ϭ> Syrilig neu <σ> Groegaidd. Dwi'n gwbod mewn  llawysgrife canoloesol y Gymraeg roedden nhw'n defnyddio llythyren yn debyg i'r rhif <6> ar gyfer <w>, felly mae'n debyg ei bod hi'n seiliedig ar honno. (Dwi'm yn meddwl ei bod hi ar gael mewn Unicode eto). Gan na fydd yr un o'r llythrennau uchod yn derbyn to bach ar ei phen, fydd yn rhaid i mi fod yn ddiflas a defnyddio'r <ϭ> ar gyfer <w> ac <ŵ>.
a ... [a]
â ... [a:]
b ... [b]
b̓ ... [v]
b̔ ... [m]
c ... [k]
c̓ ... [g]
c̔ ... [ŋʰ]
ć ... [x]
d ... [d]
d̓ ... [ð]
d̔ ... [n]
e ... [ɛ]
ê ... [e:]
v ... [v]
f ... [f]
g ... [g]
g̔ ... [ŋ]
h ... [h]
i ... [ɪ, i]
l ... [l]
l̔ ... [ɬ]



m ... [m]
m̓ ... [v]
n ... [n]
o ... [ɔ]
ô ... [o:]
p ... [p]
p̓ ... [b]
p̔ ... [mʰ]
ṕ ... [f]
r ... [r]
r̔ ... [rʰ]
s ... [s]
t ... [t]
t̓ ... [d]
t̔ ... [nʰ]
t́ ... [θ] 
u ... [ɪ, i, ɨ]
ϭ ... [w, u, u:]
y ... [ɪ, i, ɨ]
ᶌ ... [ə] 

I fod yn deg, mae'n llanast o orgraff, ond mae'r ffaith eich bod chi'n gallu gweld sut mae treiglio'n gweithio yn ddefnyddiol. Ond ar wahân i hynny mae'n flêr ofnadwy. Dwi 'di neud cymhariaeth bach an hwyl: 
 
Mae hen wlad fy nhadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad,
Dros ryddid collasant eu gwaed.


Mae hen ϭlad vᶌ t̔adau ᶌn annϭyl i mi, 
Gϭlad beird̓ a ćantorion, enϭogion o b̓ri; 
Ei gϭrol rᶌvelϭyr, gϭladc̓arϭyr tra mad,
Dros rᶌd̓id col̔asant eu gϭaed. 


Er gwaethaf ei llanast, mae'n edrych yn eitha cŵl, dwi'n credu. Yn bersonol, dwi'n hoff iawn o ieithoedd gyda llawer o farciau deiacritig (Fietnameg, unrhyw un?) Gan fy mod i'n gîc orgraffie, fydda'i mwy na thebyg yn dechre treulio lot gormod o amser yn dysgu darllen a sgwennu hon yn rhugl. Efallai fydd hi'n ffurf llaw-fer defnyddiol i'r Gymraeg heddiw? Neu efallai ddylai hi just aros yn y llyfr 'na am byth. 
 





Leave a Reply.